Mae Tom a Simon bellach yn mwynhau bywyd teuluol nodweddiadol ac yn edrych ymlaen at dreulio eu Sul y Tadau diweddaraf gyda'i gilydd dros ginio Sul gyda gweddill eu teulu.
Dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwaed Cymru, Alan Prosser, “Mae rhannu straeon fel straeon Tom a Simon yn tynnu sylw at wir werth rhoi gwaed a’r gwahaniaeth y mae’n ei wneud, nid yn unig i’r sawl sy’n derbyn y trallwysiad, ond hefyd i’w teulu. Dydy'r angen am waed byth yn dod i ben fel y gwelodd Tad Tom, Simon, yn uniongyrchol.”
Rhoddodd y driniaeth cemotherapi ollyngdod o’r canser i Tom, ond i rai cleifion canser y gwaed, eu hunig obaith yw cael trawsblaniad bôn-gelloedd.
Parhaodd Alan, “Rydym yn brysur yn recriwtio mwy o bobl rhwng 16 a 30 oed neu 16 i 45 oed os ydyn nhw o gefndir du, Asiaidd, cymysg neu leiafrif ethnig i ymuno â’n cofrestrfa rhoddwyr bôn-gelloedd gwirfoddol. Gallant wneud hyn naill ai drwy ddarparu sampl gwaed ychwanegol wrth roi gwaed neu drwy ofyn am becyn swab a ddanfonir adref drwy ein gwefan.
"Yn anffodus, o ran rhoi bôn-gelloedd, nid yw tri o bob deg claf yma yn y DU yn dod o hyd i rywun addas sydd ei angen arnynt yn daer ac mae'r ystadegyn hwnnw hyd yn oed yn uwch, saith o bob deg, ar gyfer cleifion o gefndir du, Asiaidd, cymysg neu leiafrif ethnig. Rydyn ni eisiau gwella'r siawns hynny."
Gall mwy o bobl nag erioed o'r blaen ymuno â chofrestrfa bôn-gelloedd Gwasanaeth Gwaed Cymru nawr i helpu cleifion i oresgyn canserau gwaed ac anhwylderau gwaed. I gael gwybod mwy neu i drefnu apwyntiad i roi gwaed sy'n achub bywyd, ewch i welshblood.org.uk.